Bydd angen Rhif Adnabod unigol Prifysgol De Cymru ar fyfyrwyr i allu
mewngofnodi i'n gwasanaeth cofrestru ar-lein.
Ar gyfer myfyrwyr newydd, cynhyrchir Rhifau Adnabod pan fyddwn yn
derbyn ffeil data wedi’i llanlwytho. Ar ôl i'r
ffeil gael ei phrosesu, bydd cofnodion ar gael i'w gweld ar ein system cofnodion canolog (Quercus). Dylai'r ffeiliau data hyn gynnwys myfyrwyr
sy'n cofrestru ar gwrs newydd sbon yn unig.
Cyflwynir myfyrwyr sy'n dychwelyd yn awtomatig i'w
sesiwn academaidd nesaf ar ôl i'r Brifysgol gyhoeddi canlyniadau. Bydd y sefyllfa
ddiweddaraf ar gael
i'w gweld ar ein system cofnodion canolog (Quercus).
Gellir ymchwilio i faterion gyda chofnodion coll trwy godi galwad cymorth.
Cysylltwch â ni os hoffech ofyn am fynediad i Quercus neu os
oes angen help arnoch i gyrchu'ch cyfrif cyflwyno data.