Cyn-fyfyrwyr Prifysgol De Cymru a Phrifysgol Morgannwg

Mae'r gwasanaethau sydd ar gael a'r costau cysylltiedig wedi'u rhestru isod:

EITEM


COST


AMSER


Tystysgrif Ddisodli 

Tystysgrif ddisodli yn cadarnhau eich enw a'ch dyfarniad cyffredinol.  Dylech nodi mai dim ond os yw'r gwreiddiol wedi'i cholli neu ei difrodi y gellir darparu tystysgrif ddisodli.  Bydd angen dychwelyd tystysgrifau wedi'u difrodi i'r Brifysgol a llofnodi datganiad ar y ffurflen gais.

£30

10 diwrnod gwaith


Adysgrif Perfformiad 

Yn rhestru'r holl fodiwlau a astudiwyd yn ystod eich cwrs, ac yn cynnwys y canlyniadau a gafwyd ar gyfer pob modiwl

£45 

£5 ar gyfer copïau ychwanegol a archebir ar yr un pryd

10 diwrnod gwaith


Copi ardystiedig o Dystysgrif a/neu Adysgrif Perfformiad

Llungopi du a gwyn o'r ddogfen wreiddiol gyda stamp a llofnod i ddynodi copi Gwir a Chywir. Nid oes modd cael hwn oni bai bod y ddogfen wreiddiol yn dal i fod ganddoch chi.

£10 

£5 ar gyfer copïau ychwanegol a archebir ar yr un pryd

10 diwrnod gwaith


Cadarnhau Dyfarniad/Geirda Academaidd 

Llythyr yn cadarnhau dyfarniad myfyriwr a chyfnod astudio a anfonir yn electronig drwy e-bost. Gall hyn hefyd gynnwys cadarnhau dilysrwydd tystysgrif

£10

10 diwrnod gwaith


Llythyr Cyfuno Prifysgolion 

llythyr safonol sy'n egluro'r gydberthynas rhwng Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Cymru, Casnewydd, a Phrifysgol De Cymru, a bydd yn rhoi sicrwydd y bydd tystysgrifau a gyhoeddwyd gan y sefydliadau blaenorol yn dal i fod yn ddilys

Am Ddim

10 diwrnod gwaith



Os ydych chi wedi graddio yn ystod y 12 mis diwethaf, ac os nad ydych chi wedi cael eich tystysgrif a/neu adysgrif, cliciwch yma